Description
Croeso i’r cwrs: Hanfodion Office 365
Mae gwneud y mwyaf posib o fynediad neu danysgrifiad Office 365 yn gallu bod yn anodd i addysgwyr sydd ddim yn brofiadol yn y maes. Yn ystod y cwrs yma byddwn yn canolbwyntio ar y chwe app allweddol yma er mwyn helpu’ch dosbarth i gydweithio ac archwilio cynnwys eich gwersi:
- Sway
- Forms
- Planner
- OneDrive
- Teams
- Class Notebook
Byddwch yn dysgu sut i greu gwersi bachog ac i ymestyn tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i ymbweru’ch disgyblion i wthio’r posibiliadau. Yn ogystal, byddwch yn meithrin gwaith tîm gyda’ch cydweithwyr wrth i chi lywio prosiectau a threfnu ffeiliau ar y cyd er mwyn hybu mynediad hawdd a dosbarthu ar y pryd.
Oes oes gennych unrhyw gwestiynau ar hyd y cwrs rydym yma i’ch helpu. Ac, fel athrawon ein hunain, gallwn awgrymu gwahanol ddulliau i ddefnyddio’r adnoddau yma yn eich ysgolion.
Felly, mwynhewch y cwrs, byddwch yn greadigol, ac fe edrychwn ymlaen i glywed gennych!