Lesson 1,
Topic 5
In Progress
Rhowch gynnig!
Lesson Progress
0% Complete
Mae'r gweithgareddau yn gam wrth gam fel y gallwch wneud mwy o ymarfer ar sut i ddefnyddio'r offer!
- Dewiswch app Sway ar dudalen cartref Office 365, dewiswch New blank Sway (tudalen cartref yr app) neu Create New (gwefan) er mwyn dechrau eich Sway.
- Sylwch ar ardaloedd Storyline a Design ar ben y dudalen. Dewiswch Storyline i greu neu olygu eich Sway.
- Cliciwch ar Title your Sway ar gerdyn cyntaf y Storyline, a teipiwch Water Cycle.
- Dewiswch Background sydd i’r chwith o’r teitl a dewiswch ddelwedd o’r awgrymiadau sy’n ymddangos, a’i lusgo i ochr chwith y teitl ble mae’n dweud Drag an image here.
- Cadwch y delweddau ar agor er mwyn eu defnyddio eto.
- Dewiswch eicon Insert Content (arwydd adio gwyrdd) a dewiswch yr eicon Stack. Sicrhewch bod ochr chwith y cerdyn yn dweud Group: Stack.
- Art ochr dde’r cerdyn, dewiswch intense (eicon bocs drws nesaf i eicon y bin).
- Llusgwch dair delwedd o’r awgrymiadau i gerdyn y grŵp.
- Edrychwch ar eich Sway wrth wasgu botwm Play ar ochr dde pen y sgrîn. Dychwelwch i’r golwg golygu wrth glicio ar eicon y pensil sydd ar ochr dde top eich Sway.
- Llywiwch yn ôl i awgrymiadau’r delweddau a dewiswch Videos. Dewiswch fideo a’i lusgo i gerdyn y grŵp.
- Dylai wahanu’n awtomatig oddi wrth ddelweddau’r Group:Stack. Ychwanegwch y capsiwn: Watch this video to learn more about the Water Cycle! Rhowch ffont trwm i’r capsiwn wrth uwcholeuo’r testun a chlicio Emphasise.
- Edrychwch ar y Sway ar unrhyw adeg.
- Dewiswch eicon Insert Content (botwm adio gwyrdd) a chliciwch ar Heading. Teipiwch y canlynol: Now let’s discuss what we have learned as a class!
- Ar ochr chwith top y sgrîn, cliciwch Design. Llywiwch i’r ochr dde a chliciwch Styles.
- Dewiswch Vertical, Horizontal neu Slides er mwyn newid gosodiad y Sway.
- Sgroliwch i lawr a dewiswch ffont a chefndir o’r awgrymiadau. Cliciwch ar fotwm Remix er mwyn dewis arddull ar hap!
- Cliciwch ar Share a dewiswch Anyone with a link.
- Dewiswch Invite people to view yna gwnewch gopi o’r ddolen a’i ddanfon at gydweithiwr ar ebost!
Quizzes