Google: Creativity in Chrome – Cymraeg

£12.99

Byddwch yn dysgu:

  • Sut i fod yn fwy creadigol o fewn Google Chrome
  • I wella effeithiolrwydd Google for Education
  • Am enghreifftiau perthnasol a ‘go iawn’ sydd wedi cael eu defnyddio yn y dosbarth
  • Ac yn gweithio trwy’r gwersi tiwtorial ar gyflymdra addas er mwyn ffocysu ar yr ardaloedd sy’n bwysig i chi
  • Ac yn darganfod sut mae Google Apps for Education yn cyfuno er mwyn gwella llif gwaith dysgu ac addysgu
  • Sut all eich sgiliau newydd gael eu rhannu gyda gweddill yr ysgol er mwyn effeithio ar addysgeg ysgol-gyfan.

Oes unrhyw ofynion cyn dilyn y cwrs?

  • Yn ddelfrydol, bydd cyfranogwyr yn meddu ar ddealltwriaeth dda o Google (G Suite) for Education, NEU yn ‘Google Level1 Certified Educator’.

Cynulleidfa darged y cwrs:

  • Defnyddwyr Google for Education canolradd
  • Athrawon
  • Addysgwyr.
-
+

Specs

Category: Tag:

Description

Croeso i gwrs Creadigrwydd gyda Chrome.

Os ydych chi’n gwybod sut i ddefnyddio sylfeini Chrome, beth sydd nesaf?! Beth arall sydd modd gwneud ar Chrome? Gadewch i ni gyflwyno’r cwrs – Creadigrwydd gyda Chrome. Byddwn yn eich tywys trwy gasgliad o chwe adnodd creadigol ar gyfer defnyddwyr Chrome, fydd yn eich galluogi chi a’ch disgyblion i greu llyfrau, gwaith celf, diagramau, nodiadau, fideos, sgrînlediadau a mwy – â’r holl hyn yn gallu cael eu gosod a’u rheoli trwy’r Google Admin Console.

Mae’r chwe app creadigol yma o’r Chromebook App Hub yn llawn o nodweddion arloesol, adnoddau a syniadau cychwynnol i’ch helpu i gynllunio prosiectau creadigol, dwfn a diddorol. Rhowch y pŵer i’ch disgyblion i arddangos eu creadigrwydd yn y dosbarth, a thu hwnt.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ystod y cwrs, rydym yma i’ch helpu, ac fel athrawon gallwn awgrymu wahanol ffyrdd o ddefnyddio’r adnoddau yma yn eich hysgolion.

Felly am y tro, mwynhewch y cwrs, byddwch yn greadigol, ac fe edrychwn ymlaen i glywed gennych!