Courses

  • 6 Lessons

    Bersonoleiddio Dysgu gyda Microsoft Whiteboard

    Croeso i’r cwrs yma ar Bersonoleiddio Dysgu gyda Microsoft Whiteboard! Beth yw personoleiddio dysgu? Fe’i amlygir pan fydd disgyblion yn llwyddo i feistrioli cynnwys o fewn system o gymhwysedd, a’u bod ynghlwm â gosod targedau sy’n seiliedig ar lefel eu gwybodaeth ar gysyniad. Mae dysgwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y prosesau cynllunio a dysgu fel cyfranogwyr gweithredol. Sut gall Microsoft Whiteboard gefnogi hyn? Mae Microsoft Whiteboard yn helpu i fynd â gwersi i lefel arall wrth alluogi disgyblion a thimoedd i ryngweithio er mwyn creu tasgau a thargedau, ynghyd â’r gallu i ddylunio, meintio, mewnforio o Word neu PowerPoint a mwy. Y disgyblion sy’n rheoli wrth iddynt gynllunio, cwblhau a chyflwyno eu gwaith yn unigol, neu fel rhan o dîm. Mae’r cwrs yn cyflwyno sgiliau sylfaenol Microsoft Whiteboard ond hefyd yn rhoi adnoddau ac enghreifftiau ymarferol i roi tro iddynt gyda’ch disgyblion! Fel arfer, cysylltwch gydag unrhyw gwestiynau. *Mae’r cwrs yn ffocysu ar app arunig Microsoft Whiteboard.   Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer:
    • Addysgwyr sy’n newydd i, neu eisoes yn defnyddio offer addysgiadol Microsoft Office 365
    • Addysgwyr sydd angen dull apelgar o gydweithio â disgyblion er mwyn pennu targedau grŵp ac unigol.
  • 7 Lessons

    Creadigrwydd gyda Google Chrome

    Croeso i gwrs Creadigrwydd gyda Chrome. Os ydych chi’n gwybod sut i ddefnyddio sylfeini Chrome, beth sydd nesaf?! Beth arall sydd modd gwneud ar Chrome? Gadewch i ni gyflwyno’r cwrs - Creadigrwydd gyda Chrome. Byddwn yn eich tywys trwy gasgliad o chwe adnodd creadigol ar gyfer defnyddwyr Chrome, fydd yn eich galluogi chi a’ch disgyblion i greu llyfrau, gwaith celf, diagramau, nodiadau, fideos, sgrînlediadau a mwy - â’r holl hyn yn gallu cael eu gosod a’u rheoli trwy’r Google Admin Console. Mae’r chwe app creadigol yma o’r Chromebook App Hub yn llawn o nodweddion arloesol, adnoddau a syniadau cychwynnol i’ch helpu i gynllunio prosiectau creadigol, dwfn a diddorol. Rhowch y pŵer i’ch disgyblion i arddangos eu creadigrwydd yn y dosbarth, a thu hwnt. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ystod y cwrs, rydym yma i’ch helpu, ac fel athrawon gallwn awgrymu wahanol ffyrdd o ddefnyddio’r adnoddau yma yn eich hysgolion. Felly am y tro, mwynhewch y cwrs, byddwch yn greadigol, ac fe edrychwn ymlaen i glywed gennych!
  • 6 Lessons

    Creu Banc Adnoddau gan Ddefnyddio Google Sites

    Trosolwg o’r cwrs: Mae ehangu muriau’r ystafell ddosbarth yn rhwyddach nag erioed ers dyfodiad prosiectau dysgu trwy’r cwmwl. Ynghyd â’r datblygiadau i ddulliau addysgu cyfunol, gall Google Suite For Education eich helpu i ail-ddiffinio eich dulliau cynllunio, paratoi a rhannu cynnwys gyda’ch disgyblion a’u teuluoedd. Gan ddefnyddio Google Sites fe welwch pa mor hawdd yw hi i ddarparu adnoddau trwy fanc adnoddau, mewn awyrgylch gydweithrediadol. P’un ai eich bod yn ddefnyddiwr Google neu’n hollol newydd i’r apiau, dyma’r cwrs i chi! Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiynau ac fe fyddwn yn fwy na pharod i’ch helpu.
  • 6 Lessons

    Datblygu Llafaredd ac Ysgrifennu gydag iPad

    Croeso i gwrs ‘Datblygu llafaredd ac ysgrifennu gydag iPad’. Wrth gwblhau’r cwrs byddwch yn darganfod sut all cyfuno technoleg ddigidol, fel iPad, gyda sgiliau a dulliau addysgu traddodiadol, weithredu fel catalydd ar gyfer datblygiad sgiliau llythrennedd yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn edrych yn fanwl ar y broses ysgrifennu wrth i ni gyfuno’r damcaniaethol a’r ymarferol, er mwyn codi safonau llafaredd ac ysgrifennu eich dosbarth. Yn olaf, byddwch yn dysgu am sawl app iPad fydd yn eich hysgogi i’w defnyddio ymhellach yn y dosbarth. Dilynwch y fideos a chwblhewch y tasgau, yn ôl eich gofynion, wrth weithio trwy’r cwrs. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch gyda ni.
  • 14 Lessons

    Dysgu Trwy Brosiect ar iPad

    Croeso i gwrs Dysgu Trwy Brosiect (Project Based Learning / PBL) ar iPad. Mae’r cwrs yn dangos sut i greu prosiect traws-gwricwlaidd a bachog gan ddefnyddio amryw o adnoddau am ddim a thechnegau ar iPad.   Bydd y cwrs yn dangos i chi sut mae creu prosiectau proffesiynol unigol neu ar y cyd, gan gynnwys llu o elfennau amlgyfrwng ar hyd y ffordd. Mae’r enghraifft yn y fideos yn ffocysu ar daith o’r ardal leol, ond fe allwch chi gymhwyso’r sgiliau i unrhyw dasgau prosiect, tra’n eich galluogi i wahaniaethu rhwng cyfnodau allweddol ac oedrannau. Fel darparwyr dysgu proffesiynol Apple, mae’r cwrs wedi ei ddylunio i gynnwys ystod eang o nodweddion iPad ac apiau eraill gellir eu cymhwyso i ddarparu profiadau traws-gwricwlaidd i’ch dysgwyr. Mae’n arddangos sut i ddefnyddio’r adnoddau yma’n effeithiol, gan danio eich creadigrwydd chi i’w defnyddio. Felly os oes gennych fynediad i iPad, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud defnydd dwys ohono, dyma’r cwrs i chi!
  • 13 Lessons

    Google Certified Educator – Lefel 1

    Croeso i gwrs Lefel 1 G Suite for Education! Yn y cwrs yma cewch drosolwg o apiau Google ynghyd â gwersi fideo ac adnoddau i’ch helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r adnoddau anhygoel yma! Rydym yn darparu cwestiynau ymarfer er mwyn i chi allu paratoi ar gyfer arholiad Google Certified Educator Level 1. Mae’r cwrs yn llawn awgrymiadau a syniadau i’ch helpu i gael y mwyaf o’ch tanysgrifiad ac i drawsffurfio eich addysgu a’ch llif gwaith. Rydym bob amser ar gael os oes gennych unrhyw gwestiynau ac fel addysgwyr ein hunain, gallwn eich helpu i gynllunio gweithrediad yn eich ysgolion. Am y tro, mwynhewch y cwrs ac rydym yn edrych ymlaen i glywed gennych!
  • 24 Lessons

    Google Certified Educator – Lefel 2

    Croeso i gwrs Lefel 2 G Suite for Education! Mae’r cwrs yma wedi ei ddylunio ar gyfer defnyddwyr sy’n gyfarwydd â phrif nodweddion G Suite for Education, ond sy’n awyddus i ymestyn eu dealltwriaeth o adnoddau Google. Dyma beth fydd ein darlithiau ac adnoddau yn gwneud! Rydym yn darparu cwestiynau ymarfer i’ch helpu i baratoi ar gyfer arholiad Google Certified Educator Level 2. Mae’r cwrs yn llawn o awgrymiadau a chyngor ar sut i gael y mwyaf o’ch tanysgrifiad ac i ysbrydoli’ch llif gwaith dysgu ac addysgu. Rydym yma i chi os oes unrhyw gwestiynau. Ac, fel athrawon ein hunain, rydym yn awyddus i rannu adnoddau anhygoel fydd yn ychwanegu at gyffro ac ymgysylltiad eich dosbarthiadau! Felly am y tro, mwynhewch y cwrs ac fe edrychwn ymlaen i glywed gennych!
  • 12 Lessons

    Google Classroom – Cymraeg

    Croeso i gwrs ‘Cyflwyniad i Google Classroom’. Wrth ei ddilyn a’i gwblhau, byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i hwyloso eich defnydd effeithiol o Google Classroom yn eich hinsawdd addysgiadol. Mae Google Classroom, sy’n rhan o ‘G Suite for Education’ yn gadael i chi drefnu a rheoli eich dulliau gweithio mewn ffordd cwbl ddi-bapur. Dyluniwyd y cwrs er mwyn cynnwys awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu i drawsffurfio eich addysgeg a’ch dulliau dysgu ac addysgu. Mae croeso i chi ddilyn gan gwblhau tasgau Google Classroom sy’n addas i’ch sefyllfa chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rydym yn hapus iawn i’ch helpu. Mwynhewch, a chroeso i Google Classroom!
  • 6 Lessons

    Hanfodion Office 365

    Croeso i’r cwrs: Hanfodion Office 365 Mae gwneud y mwyaf posib o fynediad neu danysgrifiad Office 365 yn gallu bod yn anodd i addysgwyr sydd ddim yn brofiadol yn y maes. Yn ystod y cwrs yma byddwn yn canolbwyntio ar y chwe app allweddol yma er mwyn helpu’ch dosbarth i gydweithio ac archwilio cynnwys eich gwersi:
    • Sway
    • Forms
    • Planner
    • OneDrive
    • Teams
    • Class Notebook
    Byddwch yn dysgu sut i greu gwersi bachog ac i ymestyn tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i ymbweru’ch disgyblion i wthio’r posibiliadau. Yn ogystal, byddwch yn meithrin gwaith tîm gyda’ch cydweithwyr wrth i chi lywio prosiectau a threfnu ffeiliau ar y cyd er mwyn hybu mynediad hawdd a dosbarthu ar y pryd. Oes oes gennych unrhyw gwestiynau ar hyd y cwrs rydym yma i’ch helpu. Ac, fel athrawon ein hunain, gallwn awgrymu gwahanol ddulliau i ddefnyddio’r adnoddau yma yn eich ysgolion. Felly, mwynhewch y cwrs, byddwch yn greadigol, ac fe edrychwn ymlaen i glywed gennych!
  • 9 Lessons

    Hygyrchedd ar iPads

    Mae gan bob plentyn anghenion addysgiadol gwahanol. Ymunwch gyda ni er mwyn darganfod sut mae defnyddio iPad er mwyn cwrdd â gofynion POB dysgwr ac i drawsnewid eich dosbarth. Cewch archwilio nodweddion cynorthwyol pwerus sy’n gwyrdroi sut all unigolyn ryngweithio â’r ddyfais i ategu i’w golwg, eu clyw, sgiliau symud, dysgu a’u llythrennedd gan ddefnyddio iPad.
  • 13 Lessons

    Microsoft Teams – Cymraeg

    Croeso i gwrs ‘Cyflwyniad i Microsoft Teams’. Pwrpas y cwrs yma yw i rannu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd angen er mwyn llywio a chreu Teams a Class Notebooks effeithiol. Gyda Microsoft Teams gallwch uno disgyblion, staff, sgyrsiau, ffeiliau ac offer yn yr un man, fel bod mynediad gan bawb i unrhyw beth sydd angen er mwyn bod yn llwyddiannus o fewn neu thu allan i’r dosbarth. Mae Class Notebook yn lyfr nodiadau digidol i’r dosbarth cyfan allu derbyn, storio a threfnu nodiadau, gwaith cartref a mwy. Yn ogystal, mae’n rhoi amryw o ddewisiadau i athrawon wrth ddosbarth a chreu gwersi hygyrch a gwahaniaethol. Croeso i chi ddilyn gyda’ch cyfrif Office 365 tra’n gwylio’r fideos. Croeso i chi gysylltu gyda ni ag unrhyw gwestiynau.