Hanfodion Office 365

Croeso i’r cwrs: Hanfodion Office 365 Mae gwneud y mwyaf posib o fynediad neu danysgrifiad Office 365 yn gallu bod yn anodd i addysgwyr sydd ddim yn brofiadol yn y maes. Yn ystod y cwrs yma byddwn yn canolbwyntio ar y chwe app allweddol yma er mwyn helpu’ch dosbarth i gydweithio ac archwilio cynnwys eich gwersi:
  • Sway
  • Forms
  • Planner
  • OneDrive
  • Teams
  • Class Notebook
Byddwch yn dysgu sut i greu gwersi bachog ac i ymestyn tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i ymbweru’ch disgyblion i wthio’r posibiliadau. Yn ogystal, byddwch yn meithrin gwaith tîm gyda’ch cydweithwyr wrth i chi lywio prosiectau a threfnu ffeiliau ar y cyd er mwyn hybu mynediad hawdd a dosbarthu ar y pryd. Oes oes gennych unrhyw gwestiynau ar hyd y cwrs rydym yma i’ch helpu. Ac, fel athrawon ein hunain, gallwn awgrymu gwahanol ddulliau i ddefnyddio’r adnoddau yma yn eich ysgolion. Felly, mwynhewch y cwrs, byddwch yn greadigol, ac fe edrychwn ymlaen i glywed gennych!
Current Status
Not Enrolled
Price
Closed
Get Started
This course is currently closed  6hr

Byddwch yn dysgu:

  • Sut i gyrchu nodweddion y gwahanol feddalwedd
  • I ddefnyddio Office 365 er mwyn trefnu ffeiliau gwersi a rheoli hawliau rhannu
  • Trwy ddefnyddio enghreifftiau go-iawn i’ch tywys trwy’r broses ddysgu
  • Ar gyflymdra sy’n addas i chi a chyda ffocws ar yr agweddau sy’n berthnasol i chi
  • I gyfuno apps Office 365 er mwyn gwell llif gwaith dysgu ac addysgu
  • I hybu dysgu cydweithredol ac annibynnol yn y dosbarth
  • Sut i gydweithio gyda disgyblion a staff ar wersi, prosiectau a mwy – mewn amser real neu unrhyw bryd.

Beth yw gofynion y cwrs?

  • Yn ddelfrydol, bydd gan gyfranogwyr fynediad i gyfrif Office 365 Education neu Home.

Mae’r cwrs ar gyfer:

  • Defnyddwyr Office 365 Education lefel dechreuwr i ganolradd
  • Athrawon o bob lefel 
  • Addysgwyr o bob math.

Course Content

Expand All
Not Enrolled
This course is currently closed

Course Includes

  • 6 Lessons
  • 41 Topics
  • 6 Quizzes

Ratings and Reviews

0.0
Avg. Rating
0 Ratings
5
0
4
0
3
0
2
0
1
0
What's your experience? We'd love to know!
No Reviews Found!
Show more reviews
What's your experience? We'd love to know!