Dysgu Trwy Brosiect ar iPad

Croeso i gwrs Dysgu Trwy Brosiect (Project Based Learning / PBL) ar iPad. Mae’r cwrs yn dangos sut i greu prosiect traws-gwricwlaidd a bachog gan ddefnyddio amryw o adnoddau am ddim a thechnegau ar iPad.   Bydd y cwrs yn dangos i chi sut mae creu prosiectau proffesiynol unigol neu ar y cyd, gan gynnwys llu o elfennau amlgyfrwng ar hyd y ffordd. Mae’r enghraifft yn y fideos yn ffocysu ar daith o’r ardal leol, ond fe allwch chi gymhwyso’r sgiliau i unrhyw dasgau prosiect, tra’n eich galluogi i wahaniaethu rhwng cyfnodau allweddol ac oedrannau. Fel darparwyr dysgu proffesiynol Apple, mae’r cwrs wedi ei ddylunio i gynnwys ystod eang o nodweddion iPad ac apiau eraill gellir eu cymhwyso i ddarparu profiadau traws-gwricwlaidd i’ch dysgwyr. Mae’n arddangos sut i ddefnyddio’r adnoddau yma’n effeithiol, gan danio eich creadigrwydd chi i’w defnyddio. Felly os oes gennych fynediad i iPad, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud defnydd dwys ohono, dyma’r cwrs i chi!
Current Status
Not Enrolled
Price
Closed
Get Started
This course is currently closed  3hr

Byddwch yn dysgu:

  • Sut mae integreiddio nodweddion cynhennid yr iPad ag apiau AM DDIM er mwyn creu prosiect
  • I wella’r defnydd o iPad
  • I gyrchu enghreifftiau go iawn a pherthnasol sydd wedi eu defnyddio yn y dosbarth
  • Trwy wersi fideo sy’n ffocysu ar feusydd sy’n bwysig i chi, ac ar gyflymder eich hun
  • Sut mae iPad yn cynnal diddordeb disgyblion, ac yn datblygu ystod eang o sgiliau traws-gwricwlaidd, ac yn enwedig llythrennedd 
  • Sut allwch rannu eich sgiliau newydd gyda gweddill yr ysgol er mwyn dylanwadu ar addysgeg eicg sefydliad gyfan.

Oes yna ofynion cyn dilyn y cwrs?

  • Yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth sylfaenol o iPad a mynediad i o leiaf 1 o fewn eich amgylchedd dysgu.

Mae’r cwrs yma ar gyfer:

  • Defnyddwyr iPad cychwynnol/canolradd
  • Athrawon
  • Addysgwyr.
Not Enrolled
This course is currently closed

Course Includes

  • 14 Lessons
  • 1 Quiz

Ratings and Reviews

0.0
Avg. Rating
0 Ratings
5
0
4
0
3
0
2
0
1
0
What's your experience? We'd love to know!
No Reviews Found!
Show more reviews
What's your experience? We'd love to know!