Bersonoleiddio Dysgu gyda Microsoft Whiteboard

Croeso i’r cwrs yma ar Bersonoleiddio Dysgu gyda Microsoft Whiteboard! Beth yw personoleiddio dysgu? Fe’i amlygir pan fydd disgyblion yn llwyddo i feistrioli cynnwys o fewn system o gymhwysedd, a’u bod ynghlwm â gosod targedau sy’n seiliedig ar lefel eu gwybodaeth ar gysyniad. Mae dysgwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y prosesau cynllunio a dysgu fel cyfranogwyr gweithredol. Sut gall Microsoft Whiteboard gefnogi hyn? Mae Microsoft Whiteboard yn helpu i fynd â gwersi i lefel arall wrth alluogi disgyblion a thimoedd i ryngweithio er mwyn creu tasgau a thargedau, ynghyd â’r gallu i ddylunio, meintio, mewnforio o Word neu PowerPoint a mwy. Y disgyblion sy’n rheoli wrth iddynt gynllunio, cwblhau a chyflwyno eu gwaith yn unigol, neu fel rhan o dîm. Mae’r cwrs yn cyflwyno sgiliau sylfaenol Microsoft Whiteboard ond hefyd yn rhoi adnoddau ac enghreifftiau ymarferol i roi tro iddynt gyda’ch disgyblion! Fel arfer, cysylltwch gydag unrhyw gwestiynau. *Mae’r cwrs yn ffocysu ar app arunig Microsoft Whiteboard.   Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer:
  • Addysgwyr sy’n newydd i, neu eisoes yn defnyddio offer addysgiadol Microsoft Office 365
  • Addysgwyr sydd angen dull apelgar o gydweithio â disgyblion er mwyn pennu targedau grŵp ac unigol.
Current Status
Not Enrolled
Price
Closed
Get Started
This course is currently closed  1hr 30min

Byddwch yn dysgu:

  • Am y gwahaniaethau rhwng fersiynau gwe a bwrdd gwaith Whiteboard.
  • Sut mae defnyddio data Microsoft Forms er mwyn targedu amcanion ar gyfer yr holl ddisgyblion neu rai unigol.
  • Pa arfau sydd ar gael i gefnogi dysgu ac addysgu.
  • Sut i gyrchu dogfennau PDF, Word, PowerPoint a mwy er mwyn cefnogi eich cyflwyniadau Whiteboard.
  • Am rannu prosiectau Whiteboard byw trwy Teams, OneNote ayb. Er mwyn cefnogi anghenion dysgu cyfunol.
Not Enrolled
This course is currently closed

Course Includes

  • 6 Lessons
  • 1 Quiz

Ratings and Reviews

0.0
Avg. Rating
0 Ratings
5
0
4
0
3
0
2
0
1
0
What's your experience? We'd love to know!
No Reviews Found!
Show more reviews
What's your experience? We'd love to know!